Dw i eisiau Sky+

by Suw on May 9, 2005

Llynedd, pan o'n i'n byw yn fflat fy ffrind Svet, des i arfer i ddefnyddio Sky+ i recordio'r teledu. Mae'n fendigedig – ti'n jyst setio'r peth i recordio rhaglen neu holl gyfres, ac mae yn. Jyst fel 'na. Dim ffys. Dim problem. Gwylies i fwy o deledu Cymraeg wedyn na'r holl flwyddyn o'r blaen, jyst o achos Sky+. Mae 'na lawer sy'n cael ei ddarlledu ar S4C mod i'n hoffi gwylio, ond mae'n cael ei ddarlledu yn y noson yn aml, ar ôl dw i wedi mynd i gysgu. (Ha! Dw i'n meddwl fod 'na lot mod i'n anghofio gwylio, a ddweud y gwir.)
Yn diweddar, dw i wedi bod gwylio S4C bob p'nawn Sul, achos mae 'na lawer o raglenni da sy'n cael eu ddarlledu, ac efo is-deitlau hefyd. Dw i'n trio gwella fy Ngymraeg, felly mae'n dda iawn imi i wylio'r rhaglenni 'ma, ond sai fo'n haws o lawer i jyst presio botwm a recordio popeth a sdim rhaid i gofio troi'r teledu ymlaen.
O wel. Pan dw i'n gyfoethog.

Comments on this entry are closed.

Previous post:

Next post: