Bit.Torrent Cymraeg?

by Suw on May 9, 2005

O'n i'n jyst meddwl… oes 'na bit.torrents am raglenni Cymraeg o gwbl? Petha fel Mapio'r Byd neu'r Celtaidd? Neu, mewn ffaith, unrhywbeth?

Anonymous May 10, 2005 at 12:01 am

Mae gen i'r technoleg, fel petai, a dwi wedi creu torrent o rhai raglenni yn y gorffennol ar gyfer clipiau bach o raglenni Cymraeg.
Un problem wrth gwrs yw'r ffaith fod torrent llwyddiannus (sy'n arbed traffig) yn dibynnu ar degau neu gannoedd hyd yn oed o bobl yn llwytho ffeil ar yr un pryd neu waeth i rywun jyst llwytho'r peth lawr o wefan. A dwi ddim yn meddwl fod yna ddigon o ddiddordeb. Ond mae'n syniad a pan gai amser dwi am arbrofi gyda rhoi rhywbeth lan ar uknova.

Anonymous May 10, 2005 at 10:35 am

Do let the world know if you find *any* available audio/visual material. This re/learner wants to graduate from Yr Wythnos but doesn't want to pay the Sky shilling.

Anonymous May 12, 2005 at 3:30 am

Ie, fe hoffwn i weld hyn, hefyd. Dw i'n byw yn yr UDA, a'r un peth fy mod i'n gallu gwylio ydy'r newyddion.

Comments on this entry are closed.

Previous post:

Next post: