Wednesday, December 15, 2004

Ni Yw Y Byd

by Suw on December 15, 2004

Mae Gruff Rhys wedi mynd yn 'solo' efo sengl newydd o'r enw Ni Yw Y Byd, sy'n allan ar 19 Ionawr, ac albwm newydd o'r enw Yr Atal Genhedlaeth sy'n cael ei rhyddhau ar 24 Ionawr.
Mae Lauren Lavern newydd chwarae Ni Yw Y Byd ar XFM, a gofynodd hi am farnau y gwrandawyr. Mae'n ymddangos fel bod y mwyafrif ddim yn hoffi'r tiwn llawer. Dwedodd hi roedd 'na ormod o regi mewn negeseon y gwrandawyr i'w ddarllen nhw ar y radio.
Fi… wel, a dweud y gwir, dw i ddim yn siwr am y tiwn 'ma. Mae'n tipyn bach rhy… wn i ddim… 80s, efallai. Mae'n swnio 'naïve' imi, efo chord changes sy'n rhy amlwg, fel rhywbeth sy'n cael ei sgwennu gan plentyn. Ond, dw i'n hapus yn fawr iawn fod Gruff yn sgwennu yn y Gymraeg unwaith eto. Dw i'n caru Mwng, felly gobeithio bydd yr albwm yn tyfu arna i.
Mwy o wybodaeth o Hall or Nothing, ICWales a XFM.

{ Comments on this entry are closed }