Weithiau

by Suw on March 30, 2005

Weithiau, dw i eisiau dweud rhwybeth yn gyhoeddus fy mod i ddim yn gallu dweud yn gyhoeddus. Dw i ddim yn gwybod pam. Efallai mae 'na angen i gyffes dwfn yn fy nghalon fi. Dw i wedi sgwennu tri o flog dienw, ond roedd 'na ofn arna i, ofn y sai rhywun yn eu darganfod nhw, felly stopies i nhw i gyd. Mae neb yn ddienw ar y we, nid yn wir. Mae 'na un dal i fynny, rhywle, ond dw i ddim yn postio yna bellach. Yn lle, dw i'n sgwennu negeseon yn Ecto, a dw i'n eu cadw nhw ar fy nghyfrifiadur. Felly dyddiadur personol cudd.
Ond, weithiau, dydy hynny ddim yn ddigon da i mi. Beth wedyn? Be' fedra i wneud wedyn? Mae 'na betha yn fy mhen bod rhaid i mi fynegu rhywle, ond dw i ddim eisiau unrhywun i'w ddarllen nhw. I fod yn mwy drachywir, mae 'na bobl penodol mod i ddim eisiau eu ddarllen nhw. Dyna'r drwg yn y caws.
Felly dyma fy nghyfaddawd. Blogio yn y Gymraeg, fy iaith cudd. Dim ond fi a thi a hanner miliwn o bobl eraill sy'n gallu darllen y peth. Dw i ddim yn siwr os syniad da ydy o ond, wel, 'na ni.
Nawr 'te, beth yw fy mhroblem? Ti'n cofio'r cân Y Teimlad? Dyma fy mhroblem. Dw i wedi cwympo mewn cariad, a dydy o ddim yn hawdd. Dydy cariad ddim yn hawdd erioed, wrth gwrs, ond ar hyn o bryd, mae'n mor annodd, mor stressful. Dw i wedi bod yn siarad â fy ffrindiau am y peth, ond dydy hynny ddim yn helpu. Un dydd, dw i'n hapus, dw i'n sboncio o gwmpas fel Roo, mae'r haul yn sgleinio yn yr awyr clir glas. Y ddydd nesa mae 'na boen dwfn yn fy nghalon, mae 'na ddagrau yn fy llygaid ac dw i'n teimlo'n ddiflas fel Eeyore.
Rhaid imi ddweud, ar ôl cael ei sgwennu fel hyn, mae'n swnio mwy … normal. Heh.
Gwela, dyma fy mhwynt. Pan dw i'n siarad am y peth efo fy ffrindiau, mae 'na ormod o emosiynau arna i, dw i'n colli fy nghydbwysedd. Pan dw i'n sgwennu, mae'r hollol peth yn swnio mwy normal, llai emosiynol. Rhaid imi agor fy nghalon yn gyhoeddus, achos mae'n rhoi persbectif i mi, ond fedra i ddim sgwennu yn gyhoeddus yn y Saesneg achos bydd o'n gweld. Mae'n lwcus fod o ddim yn siarad Cymraeg, eh?
Eniwei, diolch am dy amser di. Dw i'n teimlo'n well nawr.

Anonymous April 1, 2005 at 2:47 am

Y broblem yw, ti byth yn gwybod pwy sy'n deall Cymraeg… Ta beth, rwy'n cytuno yn llwyr – rwy hefy yn canlyn, a mae'n jyst fel ti wedi disgrifio! Hollol normal a dim byd mawr…

Anonymous April 1, 2005 at 11:20 pm

I don't understand, but I do.

Anonymous April 6, 2005 at 2:05 pm

sp?rsm?let er hvorfor det er viktig ? fortelle flere n?r en er forelsket? Hvorfor skulle det gi perspektiv? Hva er ditt behov? Hvorfor finnes det de som vil holde sin forelskelse hemmelig? Kan en se at noen er forelsket uten at de sier det? – nei, nei, du trenger ikke ? svare p? dette, ikke tenke over det en gang, bare v?r forelsket og nyt det

Anonymous April 7, 2005 at 9:11 am

All's well that ends well, I always say. Mae popeth yn iawn, ac dw i'n mwynhau bod mewn cariad. Dw i'm eisiau anyleisio unrhybeth bellach. Dw i'm eisiau ffycio'r peth i fyny. 😉

Comments on this entry are closed.

Previous post:

Next post: