Be' i wneud?

by Suw on August 8, 2004

Be' i wneud efo'r blogosffer Cyrmaeg? Sori am manglo'r iaith.

Anonymous August 9, 2004 at 4:34 am

sadly the second will be another 20 years from now 😉 I suppose it is better than you blogging in Welsh ska…

Anonymous August 9, 2004 at 10:44 am

Yn gyntaf, licwn i ddwued wrthat ti mod i wedi ffeindio Clwb Malu Cachu yn ddefnyddiol iawn, yn arbennig pan oeddwn i newydd ddechrau dysgu – rhaid iddo fo barhau 🙂
Wel, dwi eisiau dy helpu di, ond weithiau dw i ddim yn siwr mod i'n coelio bod y “blogosffer” yn bodoli, heblaw fel llawer o bobl yn blogio am flogio, a weithiau yn blogio am flogio am flogio. Faint o'r blogosffer sy'n weledig i bobl sy ddim yn blogwyr? Sori, pet peeve 🙂
Ond, os ydy'r blogosffer yn bodoli, ac os dydy e ddim mor isolated ? mod i'n credu, gallai e'n ddefnyddiol iawn i'r iaith – yn enghraifft, i adeiladu cymunedau, ac i helpu dysgwyr i gael hyder trwy adeiladu eu blogiau eu hun.
Wel, eniwe, dwi'n dechrau wiblo. Beth am godi is-safle ar Glwb Malu Cachu ond ar y safle hwn ar gyfer sgwrs am y ffordd gorau i dy safleoedd? Wyt ti wedi siarad ? Nic Dafis (morfablog, maes-e)? Falle bod gyngor ganddo fo.
(Mae'n ddrwg gen i am fy Nghymraeg – rhaid i fi fwcio lle ar y Cwrs Pellach yn y Brifysgol ym mis Medi!)

Anonymous August 11, 2004 at 12:05 pm

[Brên byrp yw hwn…]
Wel, yn amlwg mae hyn yn rhywbeth sy wedi bod ar fy meddwl i ers sbel! Dw i'n credu y peth mwya gall unrhyw unigolyn wneud i hybu blogio yn y Gymraeg yw… aros amdano… blogio, yn y Gymraeg!
Mae nifer o weflogiau Cymraeg wedi codi yn diweddar (gweler y rhestr 'ma, a rhoi gwybod os wyt ti'n gwybod am fwy), ond beth sy angen yw mwy o flogiau Cymraeg sy'n cael eu diweddaru.
Byddai'n ddigon posibl – 'sai rhywun gyda'r amser i roi i hyn – sefydlu rhyw wasanaeth llety arbennig i weflogiau Cymraeg, rhywbeth tebyg i Blog*Spot, Blogware, Blog City ac yn y blaen. Byddai'n siwr o fod yn ddigon hawdd cael arian gan Fwrdd yr Iaith am wneud rhywbeth fel hyn, ond yn fy marn i byddai hynny yn dinistrio'r peth cyn iddo ddechrau. Does neb sy ddim yn blogio ddim yn blogio achos prinder arian, naci prinder llefydd am ddim i barcio eu blogiau. Prinder awydd yw'r broblem, prinder diddordeb.
Fel dyn ni wedi gweld ar maes-e.com, does dim prinder o siaradwyr Cymraeg sy'n fodlon defnyddio'r iaith ar y we. Pam dydy'r bobl yma ddim wedi mynd ati i ddechrau eu gwefannau eu hunain 'te? Safety in numbers?
Mae blogio yn y Gymraeg yn gallu bod yn unig iawn, yn enwedig i'r rhai sy'n disgwyl bod yn seren dros nos ar ôl dechrau blog. Mae'n llawer haws postio rhywbeth ar maes-e lle bydd cannoedd o bobl yn ei ddarllen, na i roi fe ar ryw blog di-ar-ffordd ble bydd hanner dwsin yn ymweld bob dydd.
Yn y bôn, y broblem yw bod “y we Gymraeg”, y rhithfro, beth bynnag, yn rhyw 5 mlynedd tu ôl i'r prif-frwd o'r we. Mae erthyglau yn y cyfryngau Cymraeg dal yn cael eu sgwennu ar “lefel mynediad”.
Cofiwch, dyn ni'n dal heb bapur newydd dyddiol yn y Gymraeg, felly does dim syndod bod blogio yn y Gymraeg wedi bod bach yn araf i ffynnu.
[Byrp drosodd.]

Anonymous August 11, 2004 at 1:23 pm
Anonymous August 11, 2004 at 7:32 pm

Dwi wedi cychwyn blog bach fy hun am b?l-droed

– nid hoff destyn pawb, dwi'n gwybod, ond dyna'r pwnc sydd yn fy ngalluogi i falu cachu fwyaf!!

Anonymous August 12, 2004 at 11:41 am

Rheol cynta i'r sleblog newydd, paid anghofio'r URL:
http://blogdroed.blogspot.com
Dw i wedi dechrau blog newydd hefyd, ar ôl gweld pa mor hawdd yw Cymreigio Blogger y dyddiau 'ma:
http://englyn.blogspot.com

Anonymous August 12, 2004 at 11:43 am

Dw i wedi ail-wampio y sgript bach 'ma, sy'n rhestru'r blogiau Cymraeg dw i'n gwybod amdanyn nhw. Oes na fwy?

Anonymous August 25, 2004 at 1:29 pm

Mwy o ddatblygiadau:
Mae Aran wedi mynd ati i Gymreigio cyfundrefn blogio Nucleus, ac mae wedi dechrau blog Cymuned (i gydfynd â blog Cymdeithas yr Iaith.
Mae blogiau newydd yn cael eu creu yn gyflymach nag ydw i'n gallu cadw lan gyda nhw:
Ble mae'r gath? – dysgwr o Lundain.
Yr Efengyl yn ôl Iesu Nicky Grist (dim perthynas).
Saerhâd gan Ifan Saer (Pyns? We gottem)
Dim Brains gan MC Sleifar.
Hogyn o Login gan Aled.
Mae pethau ar ddigwydd, ond mae angen cadw'r momentwm i fyny, ac i helpu'r bobl 'na sy newydd sefydlu blogiau cyrraedd y pwynt ble mae cario ymlaen yn haws na rhoi'r gorau.

Comments on this entry are closed.

Previous post:

Next post: