Blogio yn Gymraeg

by Suw on July 10, 2004

Dwi'm wedi bod blogio lots yn Gymraeg ar fy mlog CMC. Mae 'na lawer o reswm am hynny:
a) Dydy fy Nghymraeg ddim yn perffaith a dw i'n teimlo typin bach self-conscious yn defnyddio llawer o anglicisms ac yn ffycio i fyny idiomau. Sgen i ddim amser i gywiro popeth efo geiriadur
b) Dw i'n camdreiglo. Mae'n ddrwg gen i.
c) Dw i'm yn teimlo fel sgwennu popeth yn dwyieithog ac dw i ddim yn gwneud lot efo iaith Gymraeg ar hyn o bryd.
Ond, pan o'n i yn BlogTalk, o'n ni'n siarad â Steph, sy'n blogio yn Ffrangeg a Saesneg ar ei blog, Climb To The Stars. Felly dw i wedi penderfynu i trio experiment a thrio blogio yn Gymraeg a Saesneg. Mae 'na category arbennig am petha Cymraeg a gobeithio bydd hynny'n fy helpu pobl yn ffeindio'r negeseon Cymraeg heb cluttering i fyny'r tudalen ffrynt gormod am y pobl sy ddim yn siarad Cymraeg.
Plîs dwedwch wrtha i beth dach chi'n meddwl. Dw i eisiau gwybod.

Anonymous July 10, 2004 at 5:54 pm

Haia Suw,
Iei! Blogio yn Gymraeg. Mae angen rhywun arall i adio at y pedwar ohono ni!
Ma'n gret bod ti wedi ail ddechrau (ac o leiaf fydd gen ti un darllenwr!) , fyddai efo diddordeb gweld sut wyt ti'n handlo fo, dwi di bod yn meddwl ar adegau gwneud un fi yn ddwy-ieithog ond mae'n swnio fel gormod o waith, gan bod fi'n trio gwario cyn lleieid o amser ar y blog a phosib.
Dwi wedi cael new look ar y blog hefyd gyda llaw, so neidia dra i Rwdls am olwg.
Pob hwyl, a phaid poeni am dy Gymraeg, mae o'n gret.
Rhods

Anonymous July 11, 2004 at 11:41 am

Hei Rhods! Diolch yn fawr iawn am dy sylw di.
Dw i'n teimlo hapus mod i wedi ailddechrau blogio yn gymraeg unwaith eto, ond dw i'n poeni am be' i ddweud. Dw i'm yn *meddwl* yn gymraeg y dyddiau 'ma, felly rhaid imi newid fy standpoint, timod?
Eniwei, mae dy flog yn edrych yn dda iawn. Ti wedi gwneud gwaith da. 😉

Anonymous July 24, 2004 at 2:51 pm

a) Dydy fy Nghymraeg ddim yn perffaith..
Perffaith, schmerffaith. Sut mae gwella heb ymarfer?
b) Dw i'n camdreiglo. Mae'n ddrwg gen i.
Gwell camdreiglo gan ddysgwr o flogwr na threiglo perffaith gan Cymro di-flog.
c) Dw i'm yn teimlo fel sgwennu popeth yn dwyieithog ac dw i ddim yn gwneud lot efo iaith Gymraeg ar hyn o bryd.
Ti'n wneud mwy na 95% o'r 500,000 sy'n ei siarad fel iaith gyntaf. Dal ati, 'chan.

Anonymous July 24, 2004 at 2:52 pm

gan Cymro di-flog…
Ai rest mai cês.

Anonymous July 27, 2004 at 9:49 pm

Aw, diolch Nic. Tria i flogio mwy… hell, dw i *yn* blogio mwy, mwy na mis diweddar. 😉

Comments on this entry are closed.

Previous post:

Next post: