O'n i'n siarad â Joi Ito am Wicipedia – y gwyddoniadur arlein – pan penderfynodd o i fy nghyflwyno fi i'i ffrind di, Elian, sy'n gweithio ar Wicipedia yn yr Almaeneg. Maen nhw gyda'i gilydd wedi fy mherswadio fi i dechrau helpu efo'r Wicipedia Cymraeg.
Dw i ddim wedi defnyddio Wicipedia yn aml, ond gwylies i'r ddadl diddorol sy'n cael ei dechrau gan Horst Prillinger. Dydy Horst ddim yn hoffi'r ffaith fod yr Wicipedia'n agor i abuse gan pobl sy ddim yn gwybod eu pwnc yn iawn. Ac dw i'n gallu gweld ei bwynt fo – sdim guarantee fod yr erthyglau yn yr Wicipedia'n cywir.
Ond, meddylwch am funud. Ble gallwch chi ffeindio ffynhonnell gwybodaeth sy'n cywir yn hollol? Dydy'r Encyclopaedia Britannica ddim yn gywir bob amser – mae'n allan o ddyddiad cyn cafodd o ei gyhoeddi. Ac efo'r newid yn y ffordd bod ni'n meddwl am pa fath o ffynhonnell yn ddibynadwy – dydy'r papurau newyddion neu'r teledu ddim yn ddibynadwy bellach – dw i wedi meddwl fod mae'r Wicipedia'n ffurf da iawn am gasglu a rhannu gwybodaeth. Ac mae'n ar gael rhad ac am ddim, i bawb, ym mhobman.
Wrth gwrs, dydy Wicipedia ddim unieithog. Mae 'na lawer o fersiwnau mewn llawer o ieithoedd, yn gynnwys y Gymraeg, ac mae'n posib i cross-reference erthyglau rhwng ieithoedd. Er enghraifft, dechreues i gyfieithu'r tudalen am Joi, jyst i gael tipyn o ymarfer, ac mae'r un tudalen yn ar gael yn Pwyleg, Japaneg, Saesneg a nawr mae'r rhan cynta'n ar gael yn y Gymraeg. (Ond rhaid imi, neu rhywun arall, gorffen cyfieithu, ac mae rhaid rhywun sy'n mwy rugl 'na fi golygu'r peth.)
Mae'r we yn bwysig iawn am yr hen iaith. Dyma'r rheswm pan dechreues i Glwb Malu Cachu a Get Fluent, ond dw i'n meddwl fod yr Wicipedia Cymraeg yn mwy pwysig 'na unrhywbeth dw i wedi gwneud. Mae 'na gymuned o bobl sy'n gweithio ar yr Wicipedia Cymraeg yn barod, ond mae 'na lawer o betha dal i sgwennu. Felly, pam lai ymaelodiwch â fi, a nhw, a helpu'r iaith trwy estyn yr Wicipedia Cymraeg.
{ Comments on this entry are closed }