by Suw on January 28, 2005
Pan o'n i yn Boston, o'n i'n lwcus i gyfarfod â Dave Sifry o Technorati, ac o'n ni'n siarad am betha fel y tagiau newydd Technorati sy'n cael ei ddefnyddio ar flogiau i helpu bobl darganfod postiau am yr un pwnc (yn Technorati wrth gwrs). Roedd Dave yn dweud wrtha i am ddyn o Iwerddon sy wedi dechrau defnyddio'r tag 'Ireland' i helpu agregeitio postiau am y wlad.
Dw i'n meddwl syniad da iawn iawn yw o, felly hoffwn i awgrymu bod ni'n adoptio'r tag 'cymraeg' i helpu agregeitio postiau yn y Gymraeg yn Technorati. I wneud hyn, jyst defnyddiwch y côd 'ma:
<a href="http://technorati.com/tag/cymraeg" rel="tag">cymraeg</a>
sy'n edrych fel hyn pan mae'n cael ei ddefnyddio yn ffynhonnell y tudalen: cymraeg
Wedyn byddwn ni'n gallu mynd i'r tudalen cymraeg Technorati i weld pwy eraill wedi bod yn blogio yn y Gymraeg. Yn anffodus, sdim fîd RSS ar hyn o bryd, a dach chi ddim yn gallu tanysgrifio i watchlist sy wedi cael ei greu o tag, ond mae 'na API nawr ac mae Kevin Marks wedi dweud wrtha i fod nhw'n gweithio ar y peth.
Os dach chi'n defnyddio Ecto i flogio, dach chi'n gallu creu tag HTML newydd mewn 'custom tags'; os dach chi'n defnyddio WordPress, dyma plug-in gan Steph; neu dyma bookmarklet 'ma gan Oddiophile ar gyfer popeth arall.
Dw i wedi sgwennu mwy am dagiau ar Strange Attractor, ac mae Shelley wedi sgwennu erthygl da iawn iawn am y peth ar Burningbird.
UPDATE: Post arall am dagiau Technorati ac iaith ar Strange Attractor.
by Suw on January 17, 2005
Mae Pat wedi cael syniad da iawn iawn – podcastiau yn y Gymraeg! Athrylith ydy o. Felly dewch 'mlaen, recordiwch eich podcast nawr!
by Suw on August 16, 2004
Mae fy ffrind Lwlw newydd dechrau blog, Lol Lwlw, (dyma'r ffîd Atom. Mae Lwlw wedi bod yn dysgu Cymraeg ers sbel, a dw i'n meddwl ei bod hi'n cwl iawn am ddechrau blog. Dw i'n meddwl fod defnyddio eich iaith newydd bob dydd yw'r unig ffordd i ddod yn rhugl.
Rhaid imi sgwennu mwy, 'te. 😉
Beth bynnag, da iawn Lwlw. Dw i'n falch ohonat ti!
Dw i wedi bod yn meddwl llawer am flogio yn ddiweddar. Yn arbennig y Blogosffêr Cymraeg a sut mae blogiau'n gallu helpu hybu a chefnogi'r iaith. Dwi wedi bod yn siarad â phobl yn BlogTalk am flogio yn ddwyieithog, ac dw i'n siwr sai blogiau'n bod yn dda iawn am yr iaith Cymraeg – jyst rhaid ini ddarganfod ffwrdd i 'evangelise' blogiau i'r pobl pwysig. Rhaid ini perswadio pobl fel Dafydd Iwan neu Huw Edwards neu Gruff Rhys neu Gareth King i ddechrau blogs yn Gymraeg.
Dechreues i CMC ar fy mhen fy hun, ond dw i ddim yn gallu gwneud hyn fel 'ny. Rhaid i chi roi help imi – beth yw eich syniadau? Pwy dach chi eisiau gweld yn blogio? A sut sen ni'n eu hannog nhw i ddechrau blogio? Plîs gadewch eich sylwadiau yma. Rhaid ini, yr 'early adopters', dangos y ffordd ymlaen i siaradwyr Cymraeg eraill.
Mae'n hen bryd fod yr iaith Cymraeg yn dechrau defnyddio'r we lot mwy am ei datblygu.
Dwi'm wedi bod blogio lots yn Gymraeg ar fy mlog CMC. Mae 'na lawer o reswm am hynny:
a) Dydy fy Nghymraeg ddim yn perffaith a dw i'n teimlo typin bach self-conscious yn defnyddio llawer o anglicisms ac yn ffycio i fyny idiomau. Sgen i ddim amser i gywiro popeth efo geiriadur
b) Dw i'n camdreiglo. Mae'n ddrwg gen i.
c) Dw i'm yn teimlo fel sgwennu popeth yn dwyieithog ac dw i ddim yn gwneud lot efo iaith Gymraeg ar hyn o bryd.
Ond, pan o'n i yn BlogTalk, o'n ni'n siarad â Steph, sy'n blogio yn Ffrangeg a Saesneg ar ei blog, Climb To The Stars. Felly dw i wedi penderfynu i trio experiment a thrio blogio yn Gymraeg a Saesneg. Mae 'na category arbennig am petha Cymraeg a gobeithio bydd hynny'n fy helpu pobl yn ffeindio'r negeseon Cymraeg heb cluttering i fyny'r tudalen ffrynt gormod am y pobl sy ddim yn siarad Cymraeg.
Plîs dwedwch wrtha i beth dach chi'n meddwl. Dw i eisiau gwybod.
Dw i'n jyst testio blogio yn Gymraeg efo Blogware. Dw i ddim eisiau creu llanast ar y tudalen ffrynt, ond, wel, 'na ni.