Dw i newydd darganfod bod ‘na fersiwns Asterix The Gaul yn y Gymraeg. Mae ‘na wyth o deitlau:
- Asterix y Galiad (1976)
- Asterix ym Mhrydain (1976)
- Asterix a Cleopatra (1976)
- Asterix Gladiator (1977)
- Asterix ym myddin Cesar (1978)
- Asterix yn y gemau Olympaidd (1979)
- Asterix a’r ornest fawr (1980)
- Asterix ac anrheg Cesar (1981)
Dyma’r blurb:
Y flwyddyn yw 50 cyn Crist. Mae Gâl i gyd yn nwylo’r Rhufeiniaid… I gyd? Nage! Erys o hyd un pentref o Galiaid anorchfygol sy’n llwyddo i ddal eu tir yn erbyn yr imperialwyr. Ac nid yw bywyd yn hawdd i’r llengfilwyr Rhufeinig sy’n gorfod gwarchod gwersylloedd milwrol Bagiatrum, Ariola, Cloclarum a Bolatenae…
A, hefyd:
In the BBC archives we found the following explanations: “The Druid is Crycymalix a reference to ‘Cryman’/’Sickle’ which of course he carries with him at all times. The Bard (or should I say ‘Bardd’!) is called Odlgymix a reference to ‘Odl Gymysg’/’Mixed Rhyme’ – a very appropriate name! The chief is Einharweinix – ‘Our Leader’. With no book to hand I’m not exactly sure of the spellings they chose, or of the other character’s names. Oddly, though, I can remember the Roman camps around the village – Bolatenae/Thinbelly, Cloclarwm/Alarm Clock, Bagiautrwm/Heavy bags and Ariole/After Him. “
Well, dw i ddim yn siwr am yr esboniad yngly^n â “Crycymalix” (Getafix yn y Saesneg). Dw i’n meddwl fod o’n dod o “cruc cymalau” (neu “cricamala” according to Anweledig!) sy’n meddwl “arthritis” – bardd oedrannus yw Crycymalix.
Eniwe, dw i eisiau! Ond dw i ddim yn gwybod os maen nhw’n ar gael y ddyddiau ‘ma. Dw i wedi methu ffeindio nhw arlein. Piti.
O’n i wrth fy modd gyda’r llyfrau Asterix pan o’n i’n fach. Beth oedd yn c?l oedd y geiriau Celtaidd/Cymraeg fel menhir. Mae rhaid fod gen i gopi rhywle. Ac ie o’n i wastad wedi meddwl mai “cryd cymalau” (rheumatism) oedd tarddiad Crycamalix.
Comments on this entry are closed.