Darllen mwy

by Suw on July 5, 2006

Dw i newydd ddechrau darllen mwy. Mae gen i lyfr gan Mair Evans, o'r enw Pwy Sy'n Cofio Siôn, a dw i wedi darllen hanner y peth yn barod. Rhodd Mair y llyfr imi yn ystod 2002, ond dw i erioed wedi ei orffen fo. Bryd 'ny, o'n i'n arfer darllen yn araf iawn – o'n i'n edrych am airiau yn y geiriadur trwy'r amser. O'n i angen hanner awr i ddarllen un pennod. Nawr, medda i ddarllen un pennod mewn munudau.
Mae hynny'n fy synnu fi, achos dw i ddim yn defnyddio fy Nghymraeg yn aml, felly o'n i'n meddwl fy mod i'n ei cholli hi. Dw i ddim yn darllen llawer; dw i ddim yn sgwennu llawer. Weithiau, dw i'n mynd i Freenode a chael sgwrs yn #cym, ond dw i'n byw yn Saesneg nawr. Ond, mae'n ymddangos fy mod i wedi cadw'r iaith yn dda. (Wel, da-ish.)
Mwy na hynny, dw i wedi gwella. Dw i'n mwynhau darllen Pwy Sy'n Cofio Siôn, achos dw i'n gallu darllen yn gyflym. Ie, rhaid imi ddefnydio'r geiriadur o bryd i'w gilydd, ond nid fel gynt. Os dw i ar y tiŵb, dw i ddim yn poeni am wybod bob gair, dw i'n jyst dyfalu.
Gobeithio, bydd hynny'n meddwl y bydda i'n darllen llawer mwy. Ac os dw i'n darllen mwy, byddda i'n sgwennu mwy hefyd.

Anonymous July 6, 2006 at 6:52 pm

am i the only one who regrets not learning welsh in their spare time?

Anonymous July 6, 2006 at 11:04 pm

Probably not, no. 😉

Comments on this entry are closed.

Previous post:

Next post: