Y Blogosffer Cymraeg

by Suw on July 14, 2004

Dw i wedi bod yn meddwl llawer am flogio yn ddiweddar. Yn arbennig y Blogosffêr Cymraeg a sut mae blogiau'n gallu helpu hybu a chefnogi'r iaith. Dwi wedi bod yn siarad â phobl yn BlogTalk am flogio yn ddwyieithog, ac dw i'n siwr sai blogiau'n bod yn dda iawn am yr iaith Cymraeg – jyst rhaid ini ddarganfod ffwrdd i 'evangelise' blogiau i'r pobl pwysig. Rhaid ini perswadio pobl fel Dafydd Iwan neu Huw Edwards neu Gruff Rhys neu Gareth King i ddechrau blogs yn Gymraeg.
Dechreues i CMC ar fy mhen fy hun, ond dw i ddim yn gallu gwneud hyn fel 'ny. Rhaid i chi roi help imi – beth yw eich syniadau? Pwy dach chi eisiau gweld yn blogio? A sut sen ni'n eu hannog nhw i ddechrau blogio? Plîs gadewch eich sylwadiau yma. Rhaid ini, yr 'early adopters', dangos y ffordd ymlaen i siaradwyr Cymraeg eraill.
Mae'n hen bryd fod yr iaith Cymraeg yn dechrau defnyddio'r we lot mwy am ei datblygu.

Anonymous July 24, 2004 at 2:42 pm

Byddai blog gan unrhyw un o'r rhai ti'n sôn amdanyn yn wych o beth. Beth am Twm Morys?

Anonymous July 27, 2004 at 9:38 pm

Sai hynny'n wych, mae'n siwr. Ti ddim yn nabod Twm, on nag wyt? Hm, beth am Ifor ap Glyn?

Anonymous July 29, 2004 at 4:39 pm

Ie, mi fuasai blog o'r fath yn wych. Faswn i wrth y modd mynd mewn i ben Twm Morys! Falla fasa un gan Marc Evans yn ddiddorol.
Dyma un arall i ychwanegu at y blogosffer: http://pictiwrs.com
Blog grwp yn canolbwyntio ar ffilm (adolygiadau, gwefannau ac ati).

Anonymous August 8, 2004 at 10:52 am

Mae Simon Brooks yn gweld posibilirwydd o flogio ac y rhithfro – gofynodd ef wrth nic, aran a finnau 'sgryfennu am y We Cymraeg i bARN- efallai byddai'n derbyn erthygl “ble mae blogwyr enwog Cymraeg?” oddi wrthot ti Siw? arloeswraig y “we cymraeg annibynnol” oddet ti wedi'r cwbl.
Dyma gwpl o lleoedd i ddechrau ymchwilio'r fath o flog gan enwogion sydd ar gael yn Saesneg.
http://www.billyhayes.co.uk/
http://www.guardian.co.uk/uk_news/story/0,3604,1264629,00.html?=rss

Anonymous August 8, 2004 at 3:23 pm

Swn i'n hapus i sgwennu am y blogosffer a'r blogosffer cymraeg ar gyfer, wel, Barn neu unrhywun. Os mae 'na rywun i cywiro fy nghymraeg. 😉 diolch am y lincs. 😀
Dw i'n dal i feddwl am sut i gael myw o bobl cymraeg yn blogio. gobeithio bydd gen i newyddion am hynny cyn bo hir. os sgen ti unrhyw syniadau, swn i hapus i'w glwyed nhw.

Comments on this entry are closed.

Previous post:

Next post: