by Suw on November 26, 2008
Dw i newydd darganfod bod ‘na fersiwns Asterix The Gaul yn y Gymraeg. Mae ‘na wyth o deitlau:
- Asterix y Galiad (1976)
- Asterix ym Mhrydain (1976)
- Asterix a Cleopatra (1976)
- Asterix Gladiator (1977)
- Asterix ym myddin Cesar (1978)
- Asterix yn y gemau Olympaidd (1979)
- Asterix a’r ornest fawr (1980)
- Asterix ac anrheg Cesar (1981)
Dyma’r blurb:
Y flwyddyn yw 50 cyn Crist. Mae Gâl i gyd yn nwylo’r Rhufeiniaid… I gyd? Nage! Erys o hyd un pentref o Galiaid anorchfygol sy’n llwyddo i ddal eu tir yn erbyn yr imperialwyr. Ac nid yw bywyd yn hawdd i’r llengfilwyr Rhufeinig sy’n gorfod gwarchod gwersylloedd milwrol Bagiatrum, Ariola, Cloclarum a Bolatenae…
A, hefyd:
In the BBC archives we found the following explanations: “The Druid is Crycymalix a reference to ‘Cryman’/'Sickle’ which of course he carries with him at all times. The Bard (or should I say ‘Bardd’!) is called Odlgymix a reference to ‘Odl Gymysg’/'Mixed Rhyme’ - a very appropriate name! The chief is Einharweinix - ‘Our Leader’. With no book to hand I’m not exactly sure of the spellings they chose, or of the other character’s names. Oddly, though, I can remember the Roman camps around the village - Bolatenae/Thinbelly, Cloclarwm/Alarm Clock, Bagiautrwm/Heavy bags and Ariole/After Him. “
Well, dw i ddim yn siwr am yr esboniad yngly^n â “Crycymalix” (Getafix yn y Saesneg). Dw i’n meddwl fod o’n dod o “cruc cymalau” (neu “cricamala” according to Anweledig!) sy’n meddwl “arthritis” - bardd oedrannus yw Crycymalix.
Eniwe, dw i eisiau! Ond dw i ddim yn gwybod os maen nhw’n ar gael y ddyddiau ‘ma. Dw i wedi methu ffeindio nhw arlein. Piti.
by Suw on November 1, 2008
by Suw on October 16, 2008
Mae’r Guardian yn edrych am “Temporary Welsh Speaking Online Content Editor - To £21k - London“.
Mae’n edrych yn ddiddorol, yn enwedig y bit ‘ma (fy emphasis fi):
The Role
In this exciting brand new project, as the Online Content Editor you will be uploading new and updated content, checking quality and accuracy, ensuring the company’s style guide is adhered to and keeping to tight deadlines. Whilst maintaining a thorough understanding of the style guide you will be participating in regular forums, relating to style and error feedback from the team. As the Online Content Editor you will be liaising with the production manager, producing weekly and monthly reports. The key aspect to this role is using consistent Welsh language at all times. The web project will all be in Welsh.
Rhaid imi gadw llygad ar hon. Rhowch gwybod i mi os dach chi’n gwybod be’ sy’n digwydd!
by Suw on October 12, 2008
Mae gen i rywbeth pwysig i ddweud, ond bydda i’n dweud y peth unwaith yn unig: negatif dim pwynt un tri dim tri dau tri.
Pob lwc efo’ch ymchwil!
Os dach chi'n defnyddio'r porwr Firefox - ac os dach chi ddim, pam ddim?! - ac dach chi eisiau gweld popeth sydd yn Gymraeg yn Gymraeg, rhaid i chi newid eich blaenoriaethau iaith i Gymraeg. Ewch i 'Preferences', wedyn 'Advanced' a chlicio ar y tab 'General' ac ar waelod y tudalen byddwch chi'n gweld adran 'Languages'. Cliciwch 'Choose', wedyn 'Select a language to add', scrolio i lawr i 'Welsh', a chlicio 'Add'. Dewisiwch 'Welsh' yn y restr a chlicio 'Move Up' nes fod fo ar ben. Wedyn, cliciwch 'OK'.
Nawr, pan dach chi'n mynd i Google, byddwch chi'n gweld y dudalen yn y Gymreag, heb rhaid newid eich blaenoriaethau chi yn Google ei hun.
Nodyn: Dw i'n defnyddio Mac, felly efallai mae'n wahanol ar PC.
If you use the browser Firefox - and if you don't, why not?! - and you want to see everything that's in Welsh in Welsh, you need to change your language preferences to Welsh. Go to 'Preferences', then 'Advanced' and click the 'General' tab and at the bottom of the page you will see the 'Languages' section. Click 'Choose', then 'Select a language to add', scroll down to 'Welsh' and click 'Add'. Choose 'Welsh' in the list and click 'Move Up' until it's at the top. Then click 'OK'.
Now, when you go to Google, you will see the page in Welsh without having to change your preferences in Google itself.
Note: I use a Mac, so it might be different on a PC.
Dw i wedi bod defnyddio Twitter ers sbel nawr, yn y Saesneg, ac dw i'n ei garu fo. Wefan siml ac hwyl ydy o, ble dw i'n gallu dweud wrth y byd be' dw i'n gwneud. Medra i siarad ?¢ phobl hefyd - mewn 140 llythrennau neu llai. Mae 'na wasanaeth tecstio, felly medrwch chi ddanfon negeseuon trwy eich ff?¥n symudol.
Ond, mae 'na broblem bach efo fi. Dw i eisiau siarad Cymraeg, ac dw i wedi creu persona Cymraeg, ond mae neb arall yna sy'n siarad yr Hen Iaith.
Dewch chwarae efo fi! Hwyl bydd o!
by Suw on December 10, 2006
1. Gwyliwch teledu efo S4C
Mae 'na lawer o raglenni teledu ar gael ar wefan S4C nawr. Dach chi'n str?Æmio 4 Wal, Chez Dudley, a Natur Anghyfreithlon, a lot o betha eraill. Yn anffodus, does 'na ddim is-deitlau, sydd poen yn y din amdani i (achos dw i ddim deallt unrhywbeth fod Dudley'n dweud.)
2. Chwyliwch y we efo Google
Dach chi'n teimlo'n lwcus?
3. Grwandwch ar Radio Cymru
Os dach chi'n hoffi pethau fel 'ny.
4. Crewch gwystl efo Pledgebank
Fel mae'r wefan yn dweud: Dwedwch wrth y byd “Fe wna i, ond dim ond os wnewch chi helpu”.
5. Darllenwch blogiau
Mae 'na lawer o flogiau Cymreag ar gael ar y we. Mae Nic Dafis yn sgwennu Morfablog, un o'r blogiau cynta Cymraeg - mae'n bendigedig.
6. Gwyliwch fideo ar YouTube
Mae 'na betha dda yn Gymraeg ar YouTube. Dw i'n hoffi fideos NeilWyn.
7. Ysgrifennwch erthyglau ar gyfer Wicipedia
Mae 'na 5,932 o erthyglau yn y fersiwn Cymraeg ar hyn o bryd, ac maen nhw eisiau eich help chi.
8. Trafodwch petha ar Maes-E
Llawer o sgwrs a llawer o bobl. Be' mwy dach chi eisiau?
9. Llawrlwytho meddalwedd Cymraeg
O Opera i OpenOffice i Linux neu Ubunto.
10. Chwyliwch a defnyddio Del.icio.us yn y Gymraeg
Mae 'na lawer o petha arlein yn Gymraeg. Crewch dalen-nodyn yn defnyddio Del.icio.us neu Furl, neu pori'r dolennau.
by Suw on August 18, 2006
Just asking my Welsh speaking readers what books they are reading at the moment.
Diolch i bawb sy wedi gadael sylw awdio ar fy mhost diwetha. Dw i'n hoffi gwrando i bobl yn siarad yn y Gymraeg, felly dw i'n mynd i ofyn cwestiwn newydd heddiw.
powered by ODEO
Dw i newydd gorffen tri lyfr gan Bethan Gwanas - Bywyd Blodwen Jones, Blodwen Jones a'r Aderyn Prin, a Tri Chynnig i Blodwen Jones. Dw i'n eu mwynhau nhw yn fawr iawn. Ysgrifennwraig dda iawn yw Bethan Gwanas. Mae'r llyfrau 'ma yn ddoniol, difyr a haws i ddarllen. Yn anffodus, dw i'n meddwl bod diwedd yr ail a'r trydydd llyfrau yn siomedig, achos maen nhw'n tipyn bach gwan. Dw i'n hoffi gweld y prif gymeriadau yn datblygu trwy'r hanes, ond dydy Blodwen neu ei chariad hi ddim. Ond, swn i'n cymeradwyo'r llyfrau 'ma yn hollol.
Felly, be' dach chi'n darllen ar hyn o bryd?

Os dach chi eisiau gadael sylw, mae 'na gwpl o bethau i gofio:
- siaradwch yn araf ac yn glir
- gadewch eich enw chi
- sgwennwch disgrifiad byr i helpu gwrandawyr deall be' dach chi wedi dweud
Iawn! I ffwrdd ?¢ ni!
ATEBION
Y sylw Odeo cynta gan Neil, efo ei ddisgrifiad bach. Diolch Neil!
powered by ODEO
“Dwi‚Äôn dweud ychydig am lyfr o‚Äôr enw ‚ÄòYsbryd y lle hwn‚Äô gan Mair Evans, llyfr dwi newydd cychwyn, felly wna i ddweud mwy amdanhi ar ol ei gorffen.”
by Suw on August 11, 2006
I'm here asking Welsh speakers where they want to go, or where they have been, on holiday. The idea is that people will then leave me Odeo comments telling me what their holiday plans are.
Dw i eisiau defnyddio fy Nghymraeg i mwy yn aml, felly dw i wedi bod meddwl am rywbeth bod Tom Coates wedi gwneud efo Odeo ar ei flog. Dw i eisiau clywed mwy o Gymraeg ar y we hefyd, felly bydda i'n mynd i ddefnyddio fy mlog i ac Odeo i ofyn cwestiynau i chi i gyd, a medrwch chi ddefnyddio Odeo i ateb. Syniad da, on dydy?
(Wrth gwrs, dydy fy Nghymraeg ddim yn perffaith, felly rhaid i chi fy maddu i fy nghamgymeriadau! A bydda i'n eich maddu chi!)
Y cwestiwn heddiw yw:
Ble aethoch chi (neu ewch chi) ar wyliau? Gwrandwch isod i'r holl cwestiwn.
powered by ODEO
Os dach chi eisiau gadael ateb, jyst clicio ar y botwm isod a byddwch chi'n mynd i Odeo. Yna medrwch chi recordio ateb bach. Wedyn, bydda i'n casglu'r atebion a'u chyhoeddi nhw yma.

Atebion:
Gan Cod:
powered by ODEO
A gan Dave:
powered by ODEO
Wrth gwrs, dw i newydd cofio fod yr Eisteddfod yn digwydd yr wythnos 'ma, felly efallai bydd mwy o bobl yn ateb wythnos nesa.
Ac ateb gan Rhodri Nwdls (dw i'n meddwl).
powered by ODEO
Diolch i bawb! Os dach chi eisiau rhoi adysgrifiad neu cyfieithiad yn y comments, sai hynny'n da.
20 Awst: Un arall gan Rob. Diolch Rob. Mae Odeo yn gweithio mewn rhan - mae 'na ran ar goll, a seiniau od ar ganol. Sgen i ddim syniad be' sy wedi digwydd.
powered by ODEO
“Gair neu ddwy am ein gwyliau yn Northumberland,” gan Neil.
powered by ODEO
Ac un bach gan Tom, o'r Inner Temple.
powered by ODEO
Diolch i Nic, o Morfablog.
powered by ODEO
Dw i newydd ddechrau darllen mwy. Mae gen i lyfr gan Mair Evans, o'r enw Pwy Sy'n Cofio Siôn, a dw i wedi darllen hanner y peth yn barod. Rhodd Mair y llyfr imi yn ystod 2002, ond dw i erioed wedi ei orffen fo. Bryd 'ny, o'n i'n arfer darllen yn araf iawn - o'n i'n edrych am airiau yn y geiriadur trwy'r amser. O'n i angen hanner awr i ddarllen un pennod. Nawr, medda i ddarllen un pennod mewn munudau.
Mae hynny'n fy synnu fi, achos dw i ddim yn defnyddio fy Nghymraeg yn aml, felly o'n i'n meddwl fy mod i'n ei cholli hi. Dw i ddim yn darllen llawer; dw i ddim yn sgwennu llawer. Weithiau, dw i'n mynd i Freenode a chael sgwrs yn #cym, ond dw i'n byw yn Saesneg nawr. Ond, mae'n ymddangos fy mod i wedi cadw'r iaith yn dda. (Wel, da-ish.)
Mwy na hynny, dw i wedi gwella. Dw i'n mwynhau darllen Pwy Sy'n Cofio Siôn, achos dw i'n gallu darllen yn gyflym. Ie, rhaid imi ddefnydio'r geiriadur o bryd i'w gilydd, ond nid fel gynt. Os dw i ar y tiŵb, dw i ddim yn poeni am wybod bob gair, dw i'n jyst dyfalu.
Gobeithio, bydd hynny'n meddwl y bydda i'n darllen llawer mwy. Ac os dw i'n darllen mwy, byddda i'n sgwennu mwy hefyd.
Mae'n ymddangos fod Ankst Music wedi rhoi eu catalog ar lein. Ces i ebost o Emyr Angst sy'n dweud “Ma hi bellach yn bosib llawrlwytho y teitlau isod trwy y prif wasanaethau cerddoriaeth digidol.”
Yn anffodus, rhaid i ti logio i mewn i'r mywafrif o wasanaethau cerddoriaeth cyn ti'n gallu pori, a nid aelod ydw i, felly dw i ddim yn gwybod pa wasanaethau ydy gwerthu cerddoriaeth Ankst. Ond dw i'n defnyddio iTunes (mae'n ddrwg iawn gen i, Dduw - paid â lladd unrhyw cathod bach plîs) felly medra i bori'r iTunes Music Store a dw i'n gallu dweud bod 'na draciau MC Mabon yna, a Zabrinski, a Datblygu, i lawrlwytho. Wrth gwrs, fydda i ddim o achos fydda i ddim yn defnyddio gwasanaeth sy'n defnyddio DRM i griplo fy ngherddoriaeth fi.
Efallai bydda i'n cael mwy o lwc efo eMusic. Maen nhw'n gwerthu MP3s heb DRM. Gwych!
Dyma'r rhestr cerddoriaeth Ankst sydd ar gael yn digidol:
ANKSTMUSIKCD086 1985-1995 Datblygu
ANKST111 Wyau / Pyst / Libertino Datblygu
ANKST CD078 Blow Winds Blow David Wrench
ANKSTMUSIK CD091 All Behind The Witchtower Ectogram
ANKST 115 Electric Deckchair Ectogram
ANKST CD079 Eliot's Violet Hour Ectogram
ANKSTCD069 I Can't Believe It's Not Reggae! Ectogram
ANKST CD 063 Spoonicon EP Ectogram
ANKST CD100 Tall Things Falling Ectogram
ANKST116 Y Lleill - The Others Ectogram /John Reynolds /Rhian Green
ANKST029CD Rhiniog Geraint Jarman A'r Cynganeddwyr
ANKST105 Yn Fyw 1977 - 1981 Live Geraint Jarman A'r Cynganeddwyr
ANKST103 Sounds Of Nant Y Benglog John Lawrence / Infinity Chimps
ANKSTMUSIK CD 09 Hip-Dub Reggae-Hop 1985-2000 Llwybr Llaethog
ANKSTCD 065 MAD! Llwybr Llaethog
ANKSTMUSIKCD092 Mr Blaidd MC Mabon
ANKST CD 104 Nia Non MC Mabon
ANKSTMUSIC CD098 The Hunt For Meaning MC Mabon
ANKST CD071 Bukowski Rheinallt H. Rowlands
ANKSTMUSIKCD085 Hendaid Brân A Straeon Eraill Rheinallt H. Rowlands
ANKSTMUSIKCD095 Rheinallt III Rheinallt H. Rowlands
ANKST CD073 Arch Noa EP Topper
ANKST CD080 Something To Tell Her Topper
ANKSTMUSIK CD090 E.P. Toys Tystion
ANKSTMUSIKCD093 Hen Gelwydd Prydain Newydd (New Britain's Old Lies) Tystion
ANKSTMUSIKCD088 Shrug Off Ya Complex Tystion
ANKSTMUSIKCD089 Croeso '99 Various Artists
ANKST CD 101 Freckles E.P. Wendykurk
ANKST 109 Soft Meat Wendykurk
ANKST 110 Executive Decision Zabrinski
ANKST113 Ill Gotten Game Zabrinski
ANKST 106 Koala Ko-Ordination Zabrinski
ANKST CD99 Yeti Zabrinski
O'n i'n meddwl am yr iaith Gymraeg wythnos diwetha. O'n i'n siarad â'r pobl Global Voices, ac o'n i'n mwddwl bod rhaid inni wneud mwy efo'r we ar gyfer iaith. Ond dwi'm yn gwybod beth sydd ar gael nawr. Felly dw i wedi dechrau tudalen newydd ar fy wici CMC i gasglu gwefannau defynddiol i siaradwyr Cymraeg. Plîs golygwch!
(Nodyn: Mae'r wici'n agor, felly sdim rhaid i logio i fewn.)
by Suw on November 11, 2005
Salsa Cymraeg.
Wel, nid gweld, per se - dw i ddim eisiau gweld tomatos wedi cael eu torri - ond clywed. A dawnsio.
by Suw on October 7, 2005
Ar y BBC, mae Scrabble wedi cael ei gyhoeddi yn y Gymraeg. Ffantastig! Dw i rili rili eisiau un… a phobl i chwarae efo. Wel, nawr dw i'n byw yn Llundain unwaith eto, dw i'n gallu rhoi galw i fy ffrindiau o Gymru. Jyst rhaid imi ffeindio amser… Esgus crap iawn, on dydy? Sori.
Dydd Sul, felly dydd teledu. Ond fydda i ddim yn dysgu unrhywbeth o gwbl os dw i'n blogio yn lle canolbwyntio. Merch ddrwg ydw i.