Wednesday, March 30, 2005

Apparently, I am a car

by Suw on March 30, 2005

No, really.

{ Comments on this entry are closed }

Weithiau

by Suw on March 30, 2005

Weithiau, dw i eisiau dweud rhwybeth yn gyhoeddus fy mod i ddim yn gallu dweud yn gyhoeddus. Dw i ddim yn gwybod pam. Efallai mae 'na angen i gyffes dwfn yn fy nghalon fi. Dw i wedi sgwennu tri o flog dienw, ond roedd 'na ofn arna i, ofn y sai rhywun yn eu darganfod nhw, felly stopies i nhw i gyd. Mae neb yn ddienw ar y we, nid yn wir. Mae 'na un dal i fynny, rhywle, ond dw i ddim yn postio yna bellach. Yn lle, dw i'n sgwennu negeseon yn Ecto, a dw i'n eu cadw nhw ar fy nghyfrifiadur. Felly dyddiadur personol cudd.
Ond, weithiau, dydy hynny ddim yn ddigon da i mi. Beth wedyn? Be' fedra i wneud wedyn? Mae 'na betha yn fy mhen bod rhaid i mi fynegu rhywle, ond dw i ddim eisiau unrhywun i'w ddarllen nhw. I fod yn mwy drachywir, mae 'na bobl penodol mod i ddim eisiau eu ddarllen nhw. Dyna'r drwg yn y caws.
Felly dyma fy nghyfaddawd. Blogio yn y Gymraeg, fy iaith cudd. Dim ond fi a thi a hanner miliwn o bobl eraill sy'n gallu darllen y peth. Dw i ddim yn siwr os syniad da ydy o ond, wel, 'na ni.
Nawr 'te, beth yw fy mhroblem? Ti'n cofio'r cân Y Teimlad? Dyma fy mhroblem. Dw i wedi cwympo mewn cariad, a dydy o ddim yn hawdd. Dydy cariad ddim yn hawdd erioed, wrth gwrs, ond ar hyn o bryd, mae'n mor annodd, mor stressful. Dw i wedi bod yn siarad â fy ffrindiau am y peth, ond dydy hynny ddim yn helpu. Un dydd, dw i'n hapus, dw i'n sboncio o gwmpas fel Roo, mae'r haul yn sgleinio yn yr awyr clir glas. Y ddydd nesa mae 'na boen dwfn yn fy nghalon, mae 'na ddagrau yn fy llygaid ac dw i'n teimlo'n ddiflas fel Eeyore.
Rhaid imi ddweud, ar ôl cael ei sgwennu fel hyn, mae'n swnio mwy … normal. Heh.
Gwela, dyma fy mhwynt. Pan dw i'n siarad am y peth efo fy ffrindiau, mae 'na ormod o emosiynau arna i, dw i'n colli fy nghydbwysedd. Pan dw i'n sgwennu, mae'r hollol peth yn swnio mwy normal, llai emosiynol. Rhaid imi agor fy nghalon yn gyhoeddus, achos mae'n rhoi persbectif i mi, ond fedra i ddim sgwennu yn gyhoeddus yn y Saesneg achos bydd o'n gweld. Mae'n lwcus fod o ddim yn siarad Cymraeg, eh?
Eniwei, diolch am dy amser di. Dw i'n teimlo'n well nawr.

{ Comments on this entry are closed }