Ebost o bobl Draig

by Suw on January 27, 2005

Ces i'r ebost 'ma heddiw. O'n i'n meddwl efallai bydd o'n cael diddordeb i chi gyd os dach chi'n defnyddio To Bach, neu eisiau defnyddio Windows yn y Gymraeg.

Annwyl Ddefnyddiwr To Bach,
Mae dros 6 mis wedi mynd heibio bellach ers i ni ryddhau’r gwasanaeth ‘To Bach’. Diolch i bawb sydd wedi’i lwytho i lawr ac wedi ymateb mor gadarnhaol iddo. Erbyn hyn, mae gennym dros 10,000 o ddefnyddwyr ym mhob cwr o Gymru ac mae nifer yn dal i'w lwytho i lawr bob dydd.
Rydym wedi bod yn brysur ers ei lansio haf diwethaf ac yn awyddus i roi gwybod i chi am rai o’r prosiectau Cymraeg cyffrous y buon ni’n ymwneud â nhw. Yn gyntaf, un o’r prosiectau amlycaf y buon ni’n gweithio arno hyd yn hyn fu’r gwaith wnaethon ni gyda Microsoft, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Cymen i gynhyrchu fersiwn Cymraeg Windows XP ac Office 2003. Mae mwy o wybodaeth am y prosiect hwn a dolen i lwytho’r pecynnau rhyngwyneb iaith i lawr ar gael yn adran Windows Cymraeg ein gwefan.
Yn ail, fe gawson ni ein comisiynu gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg i ysgrifennu'r safonau ar gyfer meddalwedd Cymraeg a dwyieithog fel rhan o'u strategaeth TG gyffredinol ar gyfer yr iaith. Ar hyn o bryd, mae’r safonau hyn yn destun ymgynghori cyhoeddus ac os hoffech gyfrannu at hyn, neu gael gwybod mwy am y prosiect, ewch i adran safonau ein gwefan.
Dim ond dau o blith nifer o brosiectau yw’r rhain a arweiniodd at dwf cyffrous y cwmni y llynedd, ac, erbyn hyn, rydym wedi agor swyddfa newydd yng Nghaerdydd i weithio gyda’n cleientau yn y De. Hefyd, mae llawer mwy o bethau ar y gweill ar gyfer 2005, gan gynnwys fersiwn newydd o’r ‘To Bach’ a lansio cynnyrch newydd sylweddol yn ystod yr Eisteddfod ym mis Awst.
Cofiwch gadw mewn cysylltiad â ni drwy anfon unrhyw awgrym neu gwestiwn sydd gennych. Os ydych chi’n ‘nabod unrhyw un a allai ddefnyddio’r ‘To Bach’, cofiwch ei fod ar gael am ddim oddi ar ein gwefan yn www.draig.co.uk/tobach. Hefyd, os hoffech gael gwybod am ein gwasanaethau datblygu meddalwedd neu am ein gwasanaeth ymgynghori ym maes TG, rhowch wybod i ni.
Petai’n well gennych gael eich tynnu oddi ar y rhestr bostio hon, rhowch wybod i ni drwy anfon ateb i’r e-bost hwn.
Cofion cynnes,
Tîm Draig

Iawn iawn, post tsîp, dw i'n gwybod. 😉

Comments on this entry are closed.

Previous post:

Next post: