Wicipedia yn y wasg

by Suw on January 17, 2005

Ar ôl cael cinio efo Jimmy Wales cwpl o weithiau llynedd, I ended up yn siarad â newyddiadurwr arlein o'r enw Robert Andrews. Mae o wedi sgwennu erthygl am yr Wicipedia Gymraeg a'i le mewn dyfodol yr iaith (mae'r erthygl yn yr Saesneg). Dw i'n teimlo tipyn bach fel fraud o achos dw i ddim wedi treulio digon o amser yn gweithio ar y Wicipedia rîli. O'n i eisiau trio annog pobl o Glwb Malu Cachu i gyfrannu i'r prosiect, ond mae distributed cyfiethu'n anodd i drefnu.
Ond dw i'n hapus i weld Wicipedia yn cael gwasg dda. Prosiect pwysig am yr iaith ydy o, dw i'n meddwl, felly os ti'n siarad Cymraeg, plîs meddwl am gyfrannu. Mae un erthygl am dy hoff fand yn well 'na dim byd o gwbl. Dw i'n meddwl am sgwennu am rywbeth mwy gyfarwydd i fi, fel blogio neu llyfrau. Dim byd fawr, jyst petha bach. Efallai dw i'n gallu repurpose petha o'r wefan CMC? Bydda i ddim yn poeni am safon fy iaith – mae rhywun arall yn gallu fy nghywiro fi. Beth bynnag, bydda i'n trio.
(Summary: I was interviewed last year by Robert Andrews about the Welsh Wikipedia. You can read the resulting article on PingWales. I really do need to work more on the Welsh Wikipedia – maybe I'll try to repurpose some of the content from CMC.)

Anonymous January 18, 2005 at 7:23 am

What do you know, I wrote about Mr Wales for a Hebrew magazine…

Comments on this entry are closed.

Previous post:

Next post: