Be' i wneud efo'r blogosffer Cyrmaeg? Sori am manglo'r iaith.
bubbling enthusiasm for $arbitrary_topic
by Suw on August 8, 2004
Be' i wneud efo'r blogosffer Cyrmaeg? Sori am manglo'r iaith.
Grab your free copy of Argleton!
Matt is fascinated by the story of Argleton, the unreal town that appeared on GeoMaps but which doesn’t actually exist. He persuades his friend and flatmate Charlie to drive them both down to to find the non-existent town. And when they are standing on the very spot, at the exact longitude and latitude that defines Argleton, Matt sets in motion a chain of events that will take him places he didn’t know existed… and which perhaps don’t.
Or buy now on the Kindle:
Argleton is available on Bandcamp, or you can listen to it here:
Get smart with the Thesis WordPress Theme from DIYthemes.
sadly the second will be another 20 years from now
I suppose it is better than you blogging in Welsh ska…
Yn gyntaf, licwn i ddwued wrthat ti mod i wedi ffeindio Clwb Malu Cachu yn ddefnyddiol iawn, yn arbennig pan oeddwn i newydd ddechrau dysgu – rhaid iddo fo barhau

Wel, dwi eisiau dy helpu di, ond weithiau dw i ddim yn siwr mod i'n coelio bod y “blogosffer” yn bodoli, heblaw fel llawer o bobl yn blogio am flogio, a weithiau yn blogio am flogio am flogio. Faint o'r blogosffer sy'n weledig i bobl sy ddim yn blogwyr? Sori, pet peeve
Ond, os ydy'r blogosffer yn bodoli, ac os dydy e ddim mor isolated ? mod i'n credu, gallai e'n ddefnyddiol iawn i'r iaith – yn enghraifft, i adeiladu cymunedau, ac i helpu dysgwyr i gael hyder trwy adeiladu eu blogiau eu hun.
Wel, eniwe, dwi'n dechrau wiblo. Beth am godi is-safle ar Glwb Malu Cachu ond ar y safle hwn ar gyfer sgwrs am y ffordd gorau i dy safleoedd? Wyt ti wedi siarad ? Nic Dafis (morfablog, maes-e)? Falle bod gyngor ganddo fo.
(Mae'n ddrwg gen i am fy Nghymraeg – rhaid i fi fwcio lle ar y Cwrs Pellach yn y Brifysgol ym mis Medi!)
[Brên byrp yw hwn...]
Wel, yn amlwg mae hyn yn rhywbeth sy wedi bod ar fy meddwl i ers sbel! Dw i'n credu y peth mwya gall unrhyw unigolyn wneud i hybu blogio yn y Gymraeg yw… aros amdano… blogio, yn y Gymraeg!
Mae nifer o weflogiau Cymraeg wedi codi yn diweddar (gweler y rhestr 'ma, a rhoi gwybod os wyt ti'n gwybod am fwy), ond beth sy angen yw mwy o flogiau Cymraeg sy'n cael eu diweddaru.
Byddai'n ddigon posibl – 'sai rhywun gyda'r amser i roi i hyn – sefydlu rhyw wasanaeth llety arbennig i weflogiau Cymraeg, rhywbeth tebyg i Blog*Spot, Blogware, Blog City ac yn y blaen. Byddai'n siwr o fod yn ddigon hawdd cael arian gan Fwrdd yr Iaith am wneud rhywbeth fel hyn, ond yn fy marn i byddai hynny yn dinistrio'r peth cyn iddo ddechrau. Does neb sy ddim yn blogio ddim yn blogio achos prinder arian, naci prinder llefydd am ddim i barcio eu blogiau. Prinder awydd yw'r broblem, prinder diddordeb.
Fel dyn ni wedi gweld ar maes-e.com, does dim prinder o siaradwyr Cymraeg sy'n fodlon defnyddio'r iaith ar y we. Pam dydy'r bobl yma ddim wedi mynd ati i ddechrau eu gwefannau eu hunain 'te? Safety in numbers?
Mae blogio yn y Gymraeg yn gallu bod yn unig iawn, yn enwedig i'r rhai sy'n disgwyl bod yn seren dros nos ar ôl dechrau blog. Mae'n llawer haws postio rhywbeth ar maes-e lle bydd cannoedd o bobl yn ei ddarllen, na i roi fe ar ryw blog di-ar-ffordd ble bydd hanner dwsin yn ymweld bob dydd.
Yn y bôn, y broblem yw bod “y we Gymraeg”, y rhithfro, beth bynnag, yn rhyw 5 mlynedd tu ôl i'r prif-frwd o'r we. Mae erthyglau yn y cyfryngau Cymraeg dal yn cael eu sgwennu ar “lefel mynediad”.
Cofiwch, dyn ni'n dal heb bapur newydd dyddiol yn y Gymraeg, felly does dim syndod bod blogio yn y Gymraeg wedi bod bach yn araf i ffynnu.
[Byrp drosodd.]
Wedi dechrau trafodaeth ar maes-e am hyn.
Dwi wedi cychwyn blog bach fy hun am b?l-droed
- nid hoff destyn pawb, dwi'n gwybod, ond dyna'r pwnc sydd yn fy ngalluogi i falu cachu fwyaf!!
Rheol cynta i'r sleblog newydd, paid anghofio'r URL:
http://blogdroed.blogspot.com
Dw i wedi dechrau blog newydd hefyd, ar ôl gweld pa mor hawdd yw Cymreigio Blogger y dyddiau 'ma:
http://englyn.blogspot.com
Dw i wedi ail-wampio y sgript bach 'ma, sy'n rhestru'r blogiau Cymraeg dw i'n gwybod amdanyn nhw. Oes na fwy?
Mwy o ddatblygiadau:
Mae Aran wedi mynd ati i Gymreigio cyfundrefn blogio Nucleus, ac mae wedi dechrau blog Cymuned (i gydfynd â blog Cymdeithas yr Iaith.
Mae blogiau newydd yn cael eu creu yn gyflymach nag ydw i'n gallu cadw lan gyda nhw:
Ble mae'r gath? – dysgwr o Lundain.
Yr Efengyl yn ôl Iesu Nicky Grist (dim perthynas).
Saerhâd gan Ifan Saer (Pyns? We gottem)
Dim Brains gan MC Sleifar.
Hogyn o Login gan Aled.
Mae pethau ar ddigwydd, ond mae angen cadw'r momentwm i fyny, ac i helpu'r bobl 'na sy newydd sefydlu blogiau cyrraedd y pwynt ble mae cario ymlaen yn haws na rhoi'r gorau.